/

Geirfa ac Adnoddau

Glossary and Resources

Mae’r rhan yma’n diffinio rhai o’r termau allweddol a ddefnyddir yn Arolwg 2023, ac yn rhoi dolenni i adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i lunwyr polisi, ymchwilwyr a busnesau.

Mae data a gyflwynir yn Arolwg 2023 wedi’i gasglu drwy fesur gweithgareddau digidol busnesau yng Nghymru ar draws chwech metrig allweddol. Mae’r metrigau hyn ar gael ar lefel cwmnïau unigol, codau SIC, awdurdodau unedol, rhanbarthau, a’r wlad yn gyffredinol er mwyn meincnodi perfformiad cwmnïau yn erbyn busnesau lleol neu sector a chymharu’r sgoriau cyfartalog ar draws sectorau masnachol, ardaloedd neu ranbarthau.

Termau Cyffredinol:

Cofrestr Tŷ’r Cwmnïau – Y rhestr fwyaf cynhwysfawr o fusnesau a gofrestrir yn y DU sy’n cofnodi enw’r cwmni, statws, cyfarwyddwyr y cwmni a phobl gyda rheolaeth sylweddol, codau SIC, cyfrifon a gwybodaeth arall. Crëwyd y sampl ar gyfer yr arolwg hwn o blith busnesau yng Nghymru a gofrestrir â Thŷ’r Cwmnïau.

Data ONS – Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn casglu data manwl ar berfformiad busnesau yn y DU, a ddefnyddiwyd i ategu a rhoi cyd-destun i ganlyniadau’r arolwg hwn.

Codau SIC – Mae cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) y DU yn system o gategoreiddio gweithgareddau masnachol cwmni ac wedi’i gynnwys yn eu rhestriad yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae’r arolwg hwn wedi defnyddio codau SIC y cwmnïau yn y sampl i fesur Aeddfedrwydd Digidol ar draws gwahanol sectorau masnachol yng Nghymru.

ESG: – Mae Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol a Chorfforaethol (ESG) yn fframwaith a ddyluniwyd i helpu cwmnïau i wreiddio blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, fel bod yn ecolegol gynaliadwy neu leihau anghydraddoldeb economaidd, yn eu harferion busnes.

DEI – Fel ESG, mae Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant (DEI) yn fframwaith a ddyluniwyd i helpu cwmnïau i wreiddio gwerthoedd fel cynhwysiant a hawliau rhywedd, hiliol a LGBTQ+ yn eu harferion busnes.

Sampl – Crëwyd sampl o gwmnïau ym mhob awdurdod unedol, gan bwysoli’r sampl yn ôl codau SIC a maint y boblogaeth fusnes yn yr awdurdod hwnnw, ar sail data a gawsom gan Dŷ’r Cwmnïau.

Metrigau Allweddol:

Twf Digidol – Mae hwn yn mesur y gyfradd a’r lefel o gynnal a chadw a wneir ar wefan dros amser, sy’n adlewyrchu’r amser a’r adnoddau y mae cwmni’n ei wario ar gynnal a chadw, diweddaru ac ehangu ei bresenoldeb digidol.

Aeddfedrwydd Digidol – Mesur o aeddfedrwydd cyffredinol gwefan cwmni o’i gymharu â chwmnïau eraill gan adlewyrchu ystod o wahanol nodweddion fel hygyrchedd, defnydd o dechnoleg fel botiau sgwrsio ac e-fasnach, presenoldeb polisïau perthnasol a dolenni i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ymhlith pethau eraill.

Sgôr Arloesi – Mae hwn yn mesur i ba raddau y mae proffil digidol cwmni’n debyg i broffil digidol cwmni arloesol, wedi’i fesur gan ‘rwyd niwral’ a hyfforddwyd i adnabod y nodweddion mwy amlwg sy’n gysylltiedig â phresenoldeb digidol cwmnïau sydd ag enw da am arloesi.

Sgôr Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) – Mae’r metrig hwn yn mesur i ba raddau y mae’r testun ar wefan cwmni, ac mewn deunyddiau eraill ar gael i’r cyhoedd, yn dangos Ymgysylltu â materion ESG.

Sgôr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant (DEI) – Mae’r metrig hwn yn mesur i ba raddau y mae’r testun ar wefan cwmni, ac mewn deunyddiau eraill ar gael i’r cyhoedd, yn dangos Ymgysylltu â materion DEI.

Defnydd o’r Gymraeg – Mae hwn yn mesur y cynnwys Cymraeg ar draws presenoldeb digidol cwmni.

Adnoddau:

Yn ogystal â’r adroddiad llawn, mae Arolwg 2023 hefyd yn cynnwys Canllaw i Ddefnyddwyr i helpu busnesau i ddeall a gweithredu ar y canfyddiadau, yn ogystal ag Adolygiad i lunwyr polisi ac asiantaethau cymorth busnes.

Cyfeiriadur Busnesau Busnes Cymru – https://businesswales.gov.wales/business-directory/cy

Adnoddau Cymorth Marchnata a TG Busnes Cymru – https://businesswales.gov.wales/cy/marketing-and-it-holding-page-cy

Eisiau dysgu mwy am y casgliadau a awgrymir gan Arolwg 2023?

Cysylltwch â’r tîm y tu ôl i’r adroddiad