Canfyddiadau: Themâu Allweddol o Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2023
Mae arolwg 2023 yn defnyddio cymysgedd o ddulliau’n cyfuno casgliadau o ymchwil desg, cyfres o gyfweliadau lled-ffurfiol â phersonél allweddol o’r gymuned fusnes yng Nghymru, a dadansoddiad digidol ‘cyntaf o’i fath’ o bron i 6,000 o gwmnïau Cymru.
Ar y dudalen hon, rhoddir trosolwg ar y pum thema allweddol a gododd o dair rhan yr arolwg hwn. Am grynodebau a ffeithluniau data ar lefelau cenedlaethol a lleol, ewch i’r Dudalen Gartref a thudalennau’r awdurdodau unedol unigol.
Covid-19 oedd prif ddigwyddiad y saith mlynedd diwethaf.
Gan gynnwys y cyfnod 2016-2023, mae data’r arolwg hwn yn ymestyn dros gyfnod o esblygiad technolegol cyflym wedi’i amlygu gan nifer o ddigwyddiadau economaidd pwysig. Nid yw’n syndod efallai bod y data’n dangos mai pandemig Covid-19 a’i ôl-effeithiau a effeithiodd fwyaf ar weithgareddau digidol busnesau Cymru.
No Data Found
Ffig 1: Aeddfedrwydd Digidol ar Lefel Genedlaethol
No Data Found
Ffig 2: Twf Digidol ar Lefel Genedlaethol
Rhwng 2017 a 2019, gwelodd economi Cymru’n gyffredinol leihad bach ond amlwg mewn Aeddfedrwydd Digidol. Pan gyhoeddwyd y cyfnodau clo ar draws y wlad yng Ngwanwyn 2020, cafodd y duedd hon ei gwrthdroi’n llwyr wrth i fusnesau drwy’r wlad geisio aros mewn cysylltiad â’u cwsmeriaid (neu gyrraedd rhai newydd) drwy uwchraddio eu presenoldeb ar-lein.
Arweiniodd y newid hwn at drawsnewid economi Cymru’n llwyr wrth i dechnolegau digidol chwarae rhan ganolog mewn strategaethau masnachol hirdymor busnesau’r wlad. Dylid nodi bod y cyfnod o chwyddiant uwch a ddechreuodd yng nghanol 2022 hefyd wedi gweld cyfnod digynsail o Dwf Digidol wrth i fusnesau addasu i ddelio â’r realiti economaidd newydd hwn.
Dywedodd llawer o’r busnesau a holwyd eu bod wedi mabwysiadu arferion gweithio newydd sydd wedi parhau ers i’r cyfnodau clo ddod i ben, naill ai drwy symud at weithio hybrid, oriau rhan amser neu drwy gyflwyno gwasanaethau e-fasnach ac ar-lein. Dywedodd un perchennog ar fusnes crefft bychan fod y pandemig wedi eu sbarduno i drawsnewid eu model busnes cyfan:
“Cyn y pandemig, roedd fy musnes yn 80% o gyrsiau addysgu a 20% o wneud cynhyrchion. Mae Covid wedi rhoi cyfle i mi ail-werthuso pob dim. Dros y cyfnod clo, newidiais at tua 80% o wneud pethau a 20% o addysgu, a bellach mae o tua 50/50”
Mae gwahaniaethau clir mewn Aeddfedrwydd Digidol ac Arloesi rhwng gwahanol sectorau busnes.
Mae adroddiadau blaenorol ar Aeddfedrwydd Digidol busnesau’r DU wedi ceisio dosbarthu perchnogion busnes yn ôl eu parodrwydd a’u sgiliau digidol, gyda Mynegai Digidol Busnesau diweddar Lloyds Bank ar gyfer y DU yn adnabod 5 ‘segment’ o “goddefol” i “uwch”. Mae’r arolwg hwn yn diwygio’r dadansoddiad hwnnw drwy ddangos y gellir hefyd priodoli gwahanol lefelau o soffistigedigrwydd digidol i wahanol sectorau busnes.
Er enghraifft, ar y cyfan mae gan gwmnïau Gwasanaethau Busnes lefel lawer uwch o Aeddfedrwydd Digidol na chwmnïau Llety a Bwyd, er bod y ddau sector wedi gweld cynnydd ers 2019. Pan ddaw’n fater o Arloesi, fodd bynnag, daw Llety a Bwyd ond yn ail o ran perfformiad i Fusnesau Gwybodaeth a Chyfathrebu, sydd â’r sgôr Arloesi uchaf yn 2023 a’r cynnydd mwyaf dros y saith mlynedd diwethaf.
No Data Found
Ffig 3: Aeddfedrwydd Digidol yn ôl cod SIC
No Data Found
Ffig 4: Arloesi yn ôl Codau SIC
Roedd cwmnïau cludiant a storio wedi dangos enillion da iawn dros yr un cyfnod, er o fan cychwyn llawer is. Yn ddiddorol, y sector gyda’r cynnydd isaf o ran sgôr Arloesi ers 2016 yw Gweithgynhyrchu sydd efallai’n adlewyrchu’r ffaith bod angen mwy o amser a gwariant cyfalaf ar y mathau hyn o fusnesau i weithredu strategaethau newydd.
Er bod busnesau wedi gwella eu sgoriau Aeddfedrwydd Digidol ac Arloesi ar draws y bwrdd, nid yw’r gwahaniaethau cyffredinol rhwng y gwahanol sectorau wedi newid rhyw lawer sy’n dangos bod y categorïau a gynrychiolir gan godau SIC yn parhau i fod yn gryf hyd yn oed yng nghyd-destun trawsnewid digidol eang.
Mae busnesau arloesol a digidol-soffistigedig i’w cael ar draws Cymru, nid yn unig yn y trefi a’r dinasoedd.
Cafodd y sampl ffurfiol ar gyfer Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2023 ei greu i adlewyrchu’r gyfran a’r dosbarthiad o fusnesau ym mhob awdurdod unedol yn ôl y math o fusnes (o’r cod SIC), fel bod yr astudiaeth yn cynnwys ystod gynrychiadol o fusnesau a gweithgareddau busnes ar raddfa nad oedd yn bosib mewn arolygon blaenorol.
Mae’r ffaith bod hyd yn oed busnesau bach wedi digideiddio yn y blynyddoedd ers yr arolwg diwethaf wedi galluogi ein dulliau digidol. Arweiniodd hyn at ganfyddiadau a fyddai wedi bod yn anodd a drud iawn i’w casglu’n defnyddio dulliau arolwg analog, confensiynol. O’r herwydd, er enghraifft, mae’r arolwg hwn wedi adnabod mintai gyfan o gwmnïau arloesol a digidol soffistigedig yn gweithredu y tu allan i’r canolfannau trefol traddodiadol.
Fel y byddid yn ei ddisgwyl, gan Gaerdydd y mae’r sgôr cyfunol uchaf ar draws y metrigau i gyd, yna Abertawe a Cheredigion. Ond pan wahanwn y metrigau unigol, cawn ganlyniadau diddorol iawn. Powys sy’n sgorio uchaf ar Arloesi o’r holl awdurdodau unigol, Ceredigion sy’n sgorio uchaf ar Aeddfedrwydd Digidol, a Wrecsam ar ESG. Mae Sir Gâr, Conwy a Bro Morgannwg i gyd yn y tri uchaf ar gyfer un metrig.
Mae’r ganran uchel o gwmnïau digidol-abl y tu allan i ganolfannau trefol De Cymru’n adlewyrchu sylw a wnaed gan un o’r bobl a holwyd gennym a ddywedodd ba mor bwysig oedd ehangu rhwydweithiau buddsoddi ar draws y wlad:
“Mae gymaint o gwmnïau pwysig y tu allan i Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe sy’n gwneud pethau pwysig ond sydd heb gysylltu i’r ecosystem fuddsoddi yn yr un ffordd. Gallech ddadlau mai mater iddyn nhw yw cysylltu i’r rhwydweithiau hyn ond mae hefyd i fyny i ni eu helpu i deimlo y gallent wneud hynny.”
Ym mhob un o’r saith mlynedd diwethaf ar wahân i un, mae’r sgôr Arloesi cyfunol ar gyfer economi Cymru wedi cynyddu. Er bod y cynnydd hwn yn eithaf bach ar y cyfan, mae’n adlewyrchu’r ffaith bod arloesi’n digwydd ar draws economi Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.
No Data Found
Ffig 5: Arloesi ar Lefel Genedlaethol
Gwnaed camau breision gyda gwella mynediad at dechnoleg ddigidol, a rhaid gwneud mwy yn y blynyddoedd i ddod.
Dros gyfnod yr astudiaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrech gydnerth i wella mynediad at fanteision technoleg ddigidol, drwy gyflwyno band-eang cyflym a chynnig cymorth drwy raglen Cyflymu Cymru i Fusnesau. Mae’r gwaith o ehangu hyn i ardaloedd anodd eu cyrraedd yn parhau gan weithiau ofyn bod yn hynod ddyfeisgar (er enghraifft, bownsio signalau lloeren oddi ar y môr i gyrraedd ardaloedd arfordirol anghysbell).
Mae’r data a gasglwyd o’r astudiaeth hon yn awgrymu bod yr ymdrechion hyn wedi bod yn bur llwyddiannus. Yn nodedig, mae lefelau o Dwf Digidol ac Aeddfedrwydd Digidol busnesau gwledig wedi parhau i gynyddu dros y pedair blynedd diwethaf gan berfformio cystal â busnesau trefol. Byddai’r llwyddiant hwn wedi bod yn amhosib heb y buddsoddiadau mewn seilwaith sydd wedi digwydd.
Dywedodd y rhai a holwyd gennym dro ar ôl tro bod eu busnesau bellach yn dibynnu’n sylweddol ar gysylltedd cyflym, mewn ardaloedd masnachol a phreswyl (i gefnogi polisïau gweithio o gartref). Mae’r ddibyniaeth yma’n debygol o gynyddu yn y dyfodol wrth i fwy o fusnesau fuddsoddi mewn technoleg ddigidol ac wrth i dechnolegau newydd sy’n gofyn am ‘led band’ uwch gael eu cyflwyno.
O ganlyniad, mae cysylltedd digidol nid yn unig yn hanfodol fel y gall busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ddarparu mwy ar-lein, ond hefyd fel bod eu cwsmeriaid a’u defnyddwyr yn gallu eu cyrraedd. Nid yw’r egwyddor o ddarpariaeth ddigidol i bawb erioed wedi bod mor bwysig; a rhaid i ‘lythrennedd’ a sgiliau digidol i fusnesau a’r cyhoedd fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Fel y dywedodd un ymatebydd yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus:
“Mae llythrennedd digidol yn rhwystr mawr a sicrhau bod y boblogaeth yn gallu cysylltu â’r adnoddau hyn... Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau’r cynhwysiant hwn, ond mae’n symud yn y cyfeiriad iawn. Ond heb y math hwnnw o seilwaith digidol yn ei le, mae’n anoddach sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth.”
Gwerthoedd Cymru
Yn ogystal â mesur Aeddfedrwydd Digidol, Twf Digidol ac Arloesi, roedd yr arolwg eleni hefyd yn mesur i ba raddau y mae presenoldeb digidol busnesau Cymru’n dangos eu bod yn defnyddio’r Gymraeg ac yn Ymgysylltu â gwerthoedd Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol a Chorfforaethol. Pwrpas hyn yw adlewyrchu gweledigaeth Llywodraeth Cymru a gyflwynir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a’r Cynllun Gweithredu Economaidd (2017) er mwyn gwella ansawdd bywyd holl bobl Cymru a chreu economi sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy ar yr un pryd.
Ar y cyfan, roedd y defnydd o’r Gymraeg yn isel iawn ymhlith busnesau’r sampl er bod busnesau gwledig ddwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg ar eu gwefannau na rhai trefol, gyda Gwynedd yn cynnwys 20.14% ac Ynys Môn yn cynnwys 9.72% o fusnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Roedd gwahanol sectorau busnes hefyd yn dangos lefelau gwahanol o ddefnyddio’r Gymraeg, er y dylid bod yn ofalus cyn dod i unrhyw gasgliadau pendant ar sail sampl bach fel hwn. Er hynny, dim ond 1 allan o 100 o wefannau yn y categori SIC Cyfanwerthu a Manwerthu; Atgyweirio Cerbydau Modur a Beiciau Modur sy’n defnyddio’r Gymraeg, llawer llai nag yn y sectorau Gwybodaeth a Chyfathrebu neu Wasanaethau Busnes ac Eraill.
Felly hefyd, ychydig iawn o gyfeirio at ESG oedd y rhan fwyaf o gwmnïau’r sampl yn ei wneud yn eu presenoldeb digidol. Nid yw hyn yn syndod o gofio mai dim ond Busnesau Bach a Chanolig oedd yn yr arolwg, sy’n tueddu i beidio â bod â’r adnoddau a chymhelliad masnachol i ymgysylltu â’r pethau hyn. Fel y dywedodd un gweithiwr mewn cwmni technoleg newydd:
“Ni wn lawer am sut y mae cwmnïau technoleg yn edrych tuag at ddyfodol sero net, a byddwn wrth fy modd yn dysgu mwy. Mae llawer i’w ddysgu ac ni wn sut i wneud hynny. Efallai nad ydw i wedi rhoi’r amser i ddysgu hyn fel y dylwn...byddwn yn hoffi cael person i fynd o gwmpas pob cwmni yn egluro’n union beth y mae angen i ni ei wneud.”
Mae’n ddiddorol iawn nodi unwaith eto’r gwahaniaeth clir rhwng gwahanol sectorau busnes yr arolwg a’u sgoriau ESG. Mae cwmnïau yn y sector Gwasanaethau Busnes ac Eraill yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio deunydd yn gysylltiedig â materion ESG na chwmnïau’n gysylltiedig â’r sector bwyd a llety. Mae tystiolaeth hefyd, dros y cyfnod dan sylw, bod y sampl yn gyffredinol wedi cynyddu eu sgoriau ESG, er o fan cychwyn isel iawn. Yn y blynyddoedd nesaf, bydd sgôp i’r sector cyhoeddus arwain ar welliannau yn y maes hwn, drwy addysg a thrwy weithredu polisïau caffael sy’n adlewyrchu gwerthoedd Cymru.