Croeso i Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2023
Yn yr 21ain ganrif, mae technoleg ddigidol a sgiliau digidol yn allweddol i adeiladu busnesau llwyddiannus ac economi ffyniannus. Er mwyn cynyddu Twf Digidol, mae angen i berchnogion busnes a llunwyr polisi gael data amserol a chywir ar ddefnyddio a phwy sy’n manteisio ar dechnoleg newydd. Tan heddiw, maen nhw wedi dibynnu ar arolygon traddodiadol i roi’r data hwn ond mae problem fawr wedi bod gyda’r dull hwn: mae Aeddfedrwydd Digidol yn darged sy’n symud o hyd. digital maturity is a moving target.
Wrth i dechnolegau newydd ddod i’r farchnad, mae’r diffiniad o fusnes “digidol aeddfed” yn newid yn barhaus a busnesau a oedd unwaith ar y blaen yn canfod eu hunain ar ei hôl hi cyn pen dim. Mae methodolegau arolwg confensiynol yn cael trafferth cadw i fyny â’r newid hwn a dyna pam fod adroddiad eleni’n mabwysiadu strategaeth wahanol.
Ar sail sampl ffurfiol o bron i 6,000 o fusnesau Cymru - y mwyaf erioed ar gyfer astudiaeth o’r fath - Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru yw’r cyntaf i dracio ymddygiad digidol economi Cymru’n uniongyrchol. Drwy fonitro faint o gwmnïau sy’n buddsoddi yn eu presenoldeb digidol (er enghraifft, pa mor aml y maen nhw’n diweddaru eu gwefan? A ddefnyddir botiau sgwrsio, technoleg e-fasnach a thechnoleg arall wedi’i mewnblannu yn y wefan? Sut y maen nhw’n ymgysylltu â materion amgylcheddol a chymdeithasol?), mae’r astudiaeth yma’n mesur hyn ar sail chwech metrig allweddol: Twf Digidol, Aeddfedrwydd Digidol, Arloesi, ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu), DEI (Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant) a defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r data a ddefnyddir ar gyfer yr astudiaeth yn mynd yn ôl i 2016 felly gallwn dracio ymddygiad cwmnïau dros y saith mlynedd diwethaf gan nodi effeithiau Brexit, Covid-19 a digwyddiadau economaidd arwyddocaol eraill. Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi’r darlun mwyaf cynhwysfawr a manwl-gywir erioed o weithgarwch digidol yn economi Cymru.
Mae’r wefan yn rhoi graffiau, ffeithluniau a chrynodebau’n dangos canfyddiadau allweddol yr arolwg, yn ogystal ag esboniadau byr o’r metrigau a ddefnyddiwyd. Am ddadansoddiad llawn o fethodoleg a chanfyddiadau’r arolwg, gallwch lawrlwytho’r adroddiad; am argymhellion a chyngor penodol, dylech ddarllen y briffiadau arbenigol i fusnesau a llunwyr polisi.
Sut y crëwyd ein sampl
Mae’r arolwg hwn wedi’i ddylunio i gynnwys busnesau bach a chanolig sydd wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau mewn cyfeiriad gyda chod post yng Nghymru. Penderfynwyd peidio â chynnwys meicro-fusnesau na busnesau mawr gyda pherchnogion sy’n amlwg y tu allan i Gymru.
Ein nod wedyn oedd creu sampl o gwmnïau ynghyd â’u gwefannau cysylltiedig i gynrychioli maint cymharol y gwahanol sectorau busnes yng Nghymru a’r nifer gymharol o gwmnïau ym mhob awdurdod unedol yng Nghymru. Casglwyd manylion perthnasol yr holl gwmnïau sydd wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau ar sail data oedd ar gael ym mis Ionawr 2023.
Y cam nesaf oedd tynnu allan yr holl gwmnïau a oedd wedi ffeilio cyfrifon yn y fformat ar gyfer cwmnïau mawr, a thrwy hynny gyfyngu’r chwilio i BBaCh yn unig.
Ar gyfer y gweddill, aethom ati i gyfri’r cyfanswm o fusnesau sydd wedi cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau a gyda chod post yng Nghymru, gan ddefnyddio’r data hwn i wneud dau gyfrif:
Cyfrif nifer y busnesau ym mhob un o’r saith categori SIC uchaf. Yn defnyddio’r categorïau a ddefnyddiwyd mewn arolygon blaenorol o Aeddfedrwydd Digidol cwmnïau Cymru.
Fe wnaethom hefyd gyfri nifer y busnesau ym mhob un o’r 22 awdurdod unedol o’r un sampl o BBaCh oedd wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.
Yn olaf, crëwyd sampl o gwmnïau ym mhob awdurdod unedol, wedi’i phwysoli gan y cyfrannau SIC hyn a maint poblogaeth fusnes yr awdurdod hwnnw. Rhoddir nifer y cwmnïau a’u categorïau SIC yn y sampl derfynol isod. Nid oedd yr un sampl yn amrywio o fwy na 3% o’r ffigur targed.